Mae Ysgol Abercaseg yn falch o fod yn rhan o Gynllun Ysgolion Iach Gwynedd ac yn ymdrechu i hyrwyddo iechyd a lles holl ddisgyblion a staff yr ysgol. 'Rydym wedi llwyddo i gyflawni camau 1-6 o’r cynllun ac wedi derbyn Gwobr Ansawdd Genedlaethol Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru. |
Cyflwyniad wythnos Iach sgwod syniadau
|
 |
DATHLU LLWYDDIANT!
Bu aelodau’r Sgwad Syniadau yn darllen yn ofalus, air am air, adroddiad Gwobr Ansawdd Genedlaethol Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach sydd yn cydnabod eu gwaith canmoladwy hwy ac ymdrechion brwd holl ddisgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr yr ysgol sy’n sicrhau fod Ysgol Abercaseg yn Ysgol Iach rhagorol.
Cliciwch yma i ddarllen y llythyr llongyfarch
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad gwobr |
|
 |
HYRWYDDO FFITRWYDD A LLES
Yn ogystal â sicrhau gwersi Addysg Gorfforol o safon uchel iawn tu fewn a thu allan i ffiniau’r ysgol ‘rydym yn awyddus iawn i ddatblygu iechyd a ffitrwydd holl ddisgyblion Ysgol Abercaseg trwy eu hannog i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn ystod amser egwyl fel teithio ar hyd y llwybr antur, rhedeg o amgylch y cae a chwarae bob math o gemau gyda’u ffrindiau. |
|
 |
CLWB COGINIO
Sefydlwyd Clwb Coginio ar ôl ysgol ar gyfer Bl 2 sy’n rhoi cyfle gwych i’r plant ddysgu am fwydydd iach a deiet cytbwys drwy gyflawni gweithgareddau coginio amrywiol. Wrth gwrs uchafbwynt bob sesiwn yw cael blasu a rhannu’r bwyd y maent wedi ei baratoi. Daw’r rhieni i fewn i’r sesiynau olaf er mwyn i’r plant gael cyfle i arddangos eu sgiliau coginio newydd. |
|
 |
CLWB DREIGIAU BACH
Mae disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 yn mwynhau mynychu clwb Dreigiau Bach ar ôl ysgol sydd yn rhoi cyfle ardderchog iddynt ymlacio, gwella’u ffitrwydd a chael hwyl drwy chwarae bob math o gemau. |
|
 |
SIOP FFRWYTHAU
‘Rydym yn annog y plant i fwyta ffrwythau/llysiau gyda’u llefrith/dŵr bob dydd. Mae croeso i bob disgybl ddod â’r byrbryd o gartref a mae ffrwythau’n cael eu gwerthu yn siop yr ysgol. Hyrwyddwn yfed dŵr yn ystod y dydd drwy annog y plant i ddod ậ potel/flasg o ddŵr gyda hwy i’r ysgol bob bore. |
|
 |
GWERSI COGINIO
Fel rhan o waith thema’r dosbarth mae’r disgyblion yn cael cyfle i ddysgu mwy am fwydydd iach a deiet cytbwys drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau coginio. |
|
 |
CINIO YSGOL
Mae cinio iach, cytbwys a blasus i’w gael yn ddyddiol yn yr ysgol a gellir gweld y fwydlen yn ffenestr y gegin bob diwrnod. Gan ein bod yn hybu bwyta’n iach gofynnwn yn garedig i rieni sydd am i’w plant ddod â bocs bwyd eu hunain i sicrhau fod y cynnwys yn iach a nad oes gormod o bethau melys ynddo. |
|
 |
CLWB BRECWAST
Caiff bawb gyfle gwych i fwyta brecwast iach yn y ‘Clwb Brecwast’ gan ei ddilyn gyda siawns i ymlacio gyda’u ffrindiau cyn cychwyn ar waith prysur y diwrnod ysgol. |
|
 |
GLANHAU DANNEDD
Mae’r ymgyrch glanhau dannedd wedi ei sefydlu ym mhob dosbarth drwy’r ysgol a mae’r plant yn cymryd y dasg o ddifrif bob dydd. Braf yw gweld gwenau gloyw disgyblion Ysgol Abercaseg! |
|
 |
BYDIS BUARTH A BYDI STOP
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i blant Bl. 2 am fod yn ‘Bydis Buarth’ yn ystod amser egwyl yn gofalu fod pawb yn hapus ac yn arwain y gweithgareddau chwarae. Mae ‘Bydi Stop’ wedi cael ei sefydlu fel man i’r disgyblion fynd am gymorth. Mae nifer o oedolion ar yr iard hefyd yn ystod amser egwyl yn cadw golwg dros y plant yn gyson. |
|
 |
LLAIS Y PLENTYN
Gall y disgyblion fynegi barn a rhannu eu syniadau am faterion yn ymwneud â bywyd yr ysgol ar y bwrdd du tu allan, yn ystod amser egwyl. Mae’r ‘Sgwad Syniadau’ hefyd yn rhoi cyfle gwych i bob plentyn fod yn rhan o gynllunio a gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’u hysgol hwy. |
|
 |
GARDD YSGOL
Mae gardd wych wedi cael ei sefydlu yn ysgol Abercaseg sydd yn rhoi cyfle arbennig i’r plant dyfu a blasu bwydydd iach ac yn amgylchedd ardderchog ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Mae pawb wrth eu boddau’n rhoi help llaw! |
|
 |
DIOGELWCH Y FFORDD
Mae plant Blwyddyn 1 yn ffodus o gael y cyfle i fod yn rhan o gynllun ‘Kerbcraft’ ac yn mwynhau mynd allan o gwmpas yr ysgol i ddysgu mwy am sut i fod yn ddiogel wrth gerdded ar hyd y ffordd. |
|
 |
YMWELIAD P.C. MEIRION
Mae pawb wrth eu boddau’n croesawu P.C. Meirion i’w dosbarthiadau unwaith y tymor i sgwrsio am bethau pwysig fel Pobl sy’n ein helpu, Rheolau’r ysgol a’r gymuned a Paid Cyffwrdd, Dweud. |