
Aelodau newydd
Mae’r ysgol wedi dewis plant i fod yn aelodau newydd o grŵp Bysedd Gwyrdd. Mae pob un o’r aelodau’n edrych ymlaen i ddysgu gweddill plant Abercaseg ynglŷn â sut i edrych ar ôl y byd. Eu gwaith cyntaf fydd gwneud arolwg amgylcheddol er mwyn penderfynu pa agwedd o fywyd gwyrdd yr ysgol y maen nhw am ei wella.
|